Lleolir y Castell yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon. Gallwch fwynhau golygfeydd o gastell Caernarfon â adeiladwyd gan Edward y 1af yn 1283 tra'n cael paned ne' ginio ysgafn.
Y Maes yw calon y dref ac mae nifer o brif atyniadau Caernarfon yn agos iawn. Wedi i chi fwynhau tamaid o ginio yn ein bwyty gallwch fynd am dro o amgylch hen waliau’r dref neu ar hyd y cei llechi. Tu ôl i’r gwesty mae’r tren stêm, sydd yn mynd ar daith drwy’r Parc Cenedlaethol. Os ydych chi eisiau mynd am dro o amgylch siopau bychain y dref mae’r rhain i gyd o fewn pellter cerdded i’r gwesty.