Mae Daniel yn enedigol o Brestatyn. ’Roedd y teulu yn hoff iawn o goginio ac mae dylanwad ei dad a’i nain yn fawr arno. Mae’n cofio gweld a blasu’r bwyd anhygoel ’roedden nhw’n ei baratoi.
Tra’n astudio TGAU Arlwyo yn yr ysgol cafodd swydd fel cogydd mewn gwesty lleol, lle cafodd wir flas ar goginio a hefyd ei brofiad cyntaf yn y maes. Yn dilyn ei arholiadau Lefel-A cymerodd Dan flwyddyn allan i weithio fel Sous Chef mewn gwesty cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol y Drindod, Caerfyrddin lle cafodd B.A. mewn Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau.
Tra’n astudio yn y coleg, cafodd Dan y fraint o gymryd rhan yn y gyfres ‘Casa Dudley’ a chael y cyfle i deithio i Sbaen a gweithio gyda sawl cogydd profiadol gan gynnwys Bryn Williams, Dudley Newbery a Llinos Woods.
Ar ôl graddio aeth Dan i weithio mewn gwesty am gyfnod cyn symud i weithio yn y ‘Queen’s Head’ yn Glanwydden, ger Llandudno, lle bu’n rhan allweddol o’r tim enillodd y wobr anrhydeddus ‘AA Pub of the Year’.
Ym mis Tachwedd 2009 symudodd i’r Castell i’w swydd gyntaf fel Prif Gogydd. Mae Dan yn awyddus i greu bwydlen ddiddorol a chyffrous er mwyn i’r Castell fod y lle gorau i fwyta, yfed a chymdeithasu yng Nghaernarfon.
Yn ei amser hamdden mae Dan yn hoff iawn o bysgota, chwarae’r drymiau a threulio amser gyda’i ferch fach, Alaw.
‘Lovely night, lovely meal. Be going again in the near future’.